Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 55(2) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2015 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU A LLOEGR

Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o ganlyniad i Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (“Deddf 2015”). Mae Rhan 2 o Ddeddf 2015 yn sefydlu Cymwysterau Cymru ac yn nodi ei brif nodau.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diweddaru cyfeiriadau mewn deddfwriaeth er mwyn adlewyrchu’r system newydd ar gyfer rheoleiddio cymwysterau y darperir ar ei chyfer yn Neddf 2015.

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth, o ganlyniad i ddarpariaethau Deddf 2015, neu at ddibenion darpariaethau’r Ddeddf honno, sef Rhan 2 (sefydlu a phrif nodau Cymwysterau Cymru), Rhan 3 (cydnabod cyrff dyfarnu), Rhan 6 (darpariaeth bellach sy’n berthnasol i gydnabod, cymeradwyo a dynodi) ac adran 56 (dehongli cyfeiriadau at “cymhwyster”) o Ddeddf 2015 ac Atodlen 3 (darpariaeth bellach ynghylch cydnabod cyrff dyfarnu) ac Atodlen 4 (diwygiadau canlyniadol) iddi.

Mae gan Gymwysterau Cymru (sydd wedi ei sefydlu gan adran 2 o’r Ddeddf) swyddogaethau cydnabod cyrff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru (Rhan 3) a rheoleiddio cyrff o’r fath drwy amodau cydnabod (adran 36 ac Atodlen 3). Mae adran 34 yn ymdrin â chymwysterau y caniateir iddynt gael eu defnyddio ar gyrsiau penodol sy’n cael eu cyllido’n gyhoeddus, sydd, yn gyffredinol, yn eu cyfyngu i ffurfiau ar gymhwyster sydd naill ai wedi eu cymeradwyo gan Gymwysterau Cymru (o dan Ran 4) neu wedi eu dynodi ganddo (o dan Ran 5). Mae Atodlen 4 yn diwygio Rhan 5 o Ddeddf Addysg 1997 a Rhan 5 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 55(2) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2015 Rhif (Cy. )

ADDYSG, CYMRU A LLOEGR

 

Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016

Gwnaed                                               2016

Yn dod i rym                                1 Mai 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau yn adrannau 55(1)(c) a 59 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015([1]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn hwylus at ddibenion darpariaethau’r Ddeddf honno, neu o ganlyniad i ddarpariaethau’r Ddeddf honno, wneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 55(2) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.

RHAN 1

Cyflwyniad

Enwi a chychwyn

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Diwygiadau Canlyniadol) 2016 a deuant i rym ar 1 Mai 2016.

 

RHAN 2

Diwygio deddfwriaeth sylfaenol

Diwygio Deddf Dysgu a Sgiliau 2000

2. Yn adran 33N(1) o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000([2]) yn lle’r diffiniad o “course of study” rhodder—

“course of study” means a course of education or training that—

(a)   leads to a form of qualification or set of forms of qualification approved under Part 4 of the Qualifications Wales Act 2015 or designated under Part 5 of that Act, or

(b)   is designated by the Welsh Ministers under section 34(8) of that Act;”.

Diwygio Deddf Addysg 2002

3. Yn adran 97 o Ddeddf Addysg 2002([3]) yn lle’r diffiniad o “course of study” rhodder—

“course of study” means a course of education or training that—

(a)   leads to a form of qualification or set of forms of qualification approved under Part 4 of the Qualifications Wales Act 2015 or designated under Part 5 of that Act, or

(b)   is designated by the Welsh Ministers under section 34(8) of that Act;”.

RHAN 3

Diwygio is-ddeddfwriaeth

Diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 1992

4. Ym mharagraff 1(1)(b) o Ran 1 o Atodlen 1 i Orchymyn y Dreth Gyngor (Diystyru Disgownt) 1992([4]), fel y mae’n gymwys o ran Cymru, yn lle is-baragraff (iii) rhodder—

                    “(iii)  a qualification which is awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994

5. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994([5]), fel y mae’n gymwys o ran Cymru, yn lle’r diffiniad o “approved relevant qualification” rhodder—

“approved relevant qualification” is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994

6. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Ysgolion Arbennig) 1994([6]) yn lle’r diffiniad o “approved relevant qualification” rhodder—

“approved relevant qualification” is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;”.

Diwygio Rheoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) 1999

7. Yn rheoliad 22 o Reoliadau Cerbydau Modur (Trwyddedau Gyrru) 1999([7]), o fewn y diffiniad o “educational qualification” yn lle paragraff (f) rhodder—

“(f)  a qualification which has been awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007

8. Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2007([8]) wedi eu diwygio fel a ganlyn—

(a)     yn rheoliad 3, dileer y diffiniad o “cymhwyster perthnasol”;

(b)     yn rheoliad 5(2) yn lle is-baragraff (dd) rhodder—

(da)  Cymwysterau Cymru;

(dd) unrhyw gorff a gydnabyddir gan Gymwysterau Cymru o dan Ran 3 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 fel corff sy’n dyfarnu cymwysterau yng Nghymru;”;

(c)     yn rheoliad 5(5) yn is-baragraff (d) dileer “ac”; a

(d)     yn rheoliad 5(5) ar y diwedd mewnosoder —

“; ac

(e)   unrhyw gwrs astudio sy’n arwain at gymhwyster (ac eithrio un o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) neu (d) uchod) a ddarperir i ddisgyblion o oedran ysgol gorfodol mewn unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol os yw—

                       (i)  y ffurf ar gymhwyster y mae’r cwrs yn arwain ati wedi ei chymeradwyo o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 neu wedi ei dynodi o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu

                      (ii)  y cwrs wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015.”

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Lloegr) 2009

9. Ar ddiwedd rheoliad 3(5) o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Personau Rhagnodedig) (Lloegr) 2009([9]) ychwaneger—

                     “(x)  Qualifications Wales.”

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009

10. Mae rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Cwricwlwm Lleol ar gyfer Disgyblion yng Nghyfnod Allweddol 4) (Cymru) 2009([10]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)     yn y diffiniad o “NQF” hepgorer y geiriau o “sy’n cynnwys cymwysterau perthnasol” hyd at y diwedd;

(b)     yn y diffiniad o “QCF” hepgorer y geiriau o “sef cymwysterau perthnasol” hyd at y diwedd; ac

(c)     yn y diffiniadau o “lefel NQF” a “lefel QCF” hepgorer “perthnasol”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009

11. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Blant sy’n cael eu Haddysg drwy Ddarpariaeth Amgen) (Cymru) 2009([11]) yn lle’r diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” rhodder—

“mae “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yn gymhwyster o fewn ystyr adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;”.

Diwygio Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011

12. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011([12])—

(a)     yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”; a

(b)     yn y diffiniad o “FfCC” hepgorer y geiriau o “a ffurfir gan gymwysterau” hyd at y diwedd.

Diwygio Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011

13. Mae rheoliad 2(1) o Reoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011([13]) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—

(a)     yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”;

(b)     yn y diffiniad o “FfCC” hepgorer y geiriau o “a ffurfir gan gymwysterau” hyd at y diwedd; ac

(c)     yn y diffiniad o “lefel FfCC” hepgorer “perthnasol”.

Diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011

14.(1)(1) Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Berfformiad Ysgolion (Cymru) 2011([14]) wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 2(1) yn y lle priodol mewnosoder—

“rhif cymeradwyo” (“approval number”) yw’r rhif a ddyrennir i gymhwyster gan Gymwysterau Cymru o dan adran 22(3) o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;”.

(3) Yn rheoliad 2(1), yn lle’r diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” rhodder—

mae “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” (“approved relevant qualification”) yn gymhwyster o fewn ystyr adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015;”.

(4) Ym mharagraff 3 yn Rhan 1 o Atodlen 3, yn lle is-baragraffau (d) ac (dd) rhodder—

(d) y dyddiad dyfarnu;

(dd) y rhif cymhwyster (os oes rhif); ac

(e)   y rhif cymeradwyo (os oes rhif).”

(5) Yn lle paragraff 6 yn Rhan 2 o Atodlen 3, yn lle is-baragraffau (d) ac (dd) rhodder—

(d) y dyddiad dyfarnu;

(dd) y rhif cymhwyster (os oes rhif); ac

(e)   y rhif cymeradwyo (os oes rhif).”

 

Diwygio Rheoliadau Gweithredu’r Cwricwlwm Lleol (Cymru) 2013

15. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Gweithredu’r Cwricwlwm Lleol (Cymru) 2013([15]) yn lle’r diffiniad o “cwrs astudio” rhodder—

ystyr “cwrs astudio” yw cwrs astudio addysg neu hyfforddiant—

(a)     sy’n arwain at ffurf ar gymhwyster neu set o ffurfiau ar gymhwyster a gymeradwywyd o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 neu a ddynodwyd o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu

(b)     sydd wedi ei ddynodi gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o’r Ddeddf honno;”.

Diwygio Rheoliadau Trwyddedu Meistri Gangiau (Eithriadau) 2013

16. Ym mharagraff 13 o Ran 2 o’r Atodlen i Reoliadau Trwyddedu Meistri Gangiau (Eithriadau) 2013([16]) yn lle is-baragraff (b) rhodder—

(b) in relation to Wales, is a qualification within the meaning of section 56 of the Qualifications Wales Act 2015;”.

Diwygio Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013

17. Yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg ac Asesu’r Galw am Addysg Cyfrwng Cymraeg (Cymru) 2013([17]) yn y diffiniad o “cymhwyster perthnasol” yn lle ““relevant qualification” yn adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder ““cymhwyster” yn adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014

18. Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Addysg (Cynlluniau Datblygu Ysgolion) (Cymru) 2014([18]) yn y diffiniad o “cymwysterau perthnasol a gymeradwywyd” yn lle “adran 30(5) o Ddeddf Addysg 1997” rhodder “adran 56 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015”.

Diwygio Rheoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015

19. Yn rheoliad 3 o Reoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015([19]) yn y diffiniad o “further education course” ym mharagraff (b) yn lle is-baragraffau (ii), (iii) a (iv) rhodder—

                     “(ii)  is funded by a local authority, or

                     (iii)  leads to a qualification awarded by a body in respect of the award of which it is recognised by Qualifications Wales under Part 3 of the Qualifications Wales Act 2015;”.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Lloegr) 2015

20. Yn Atodlen 2 i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Lloegr) 2015([20])—

(a)     ym mharagraff 1(18) o Ran 1 dileer “and”; a

(b)     ar ddiwedd paragraff 1(19) ychwaneger—

“; and

(20) Qualifications Wales.”

 

Dirymu darpariaeth arbed mewn cysylltiad â chymwysterau sydd wedi eu hachredu at ddibenion Rheoliadau’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol 2015

21. Mae erthygl 13 o Orchymyn Deddf Cymwysterau Cymru 2015 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaethau Trosiannol ac Arbed) 2015([21]) wedi ei dirymu.

 

 

Huw Lewis

Y Gweinidog Addysg a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])           2015 dccc 5.

([2])           2000 p. 21. Mewnosodwyd adran 33N gan adran 35 o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 (mccc 1). Mae diwygiadau eraill i adran 33N nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

([3])           2002 p. 32. Mewnosodwyd y diffiniad o “course of study” yn adran 97 gan adran 1(1) a (2) o Fesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009.

([4])           O.S. 1992/548. Mae paragraff 1(1)(b) wedi ei ddiwygio o ran Cymru gan O.S. 2010/2448, erthygl 2.

([5])           O.S. 1994/651. Mewnosodwyd y diffiniad o “approved relevant qualification” yn rheoliad 2 o ran Cymru gan O.S. 2010/2431, rheoliad 2(a). Mae diwygiadau eraill i reoliad 2 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

([6])           O.S. 1994/652. Mewnosodwyd y diffiniad o “approved relevant qualification” yn rheoliad 2 o ran Cymru gan O.S. 2010/2431, rheoliad 3(a). Mae diwygiadau eraill i reoliad 2 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

([7])           O.S. 1999/2864. Mewnosodwyd y diffiniad o “educational qualification” yn rheoliad 22 gan O.S. 2010/1203, rheoliadau 2 a 6(b). Mae diwygiadau eraill i reoliad 22 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

([8])           O.S. 2007/3562 (Cy. 312). Mewnosodwyd y diffiniad o “cymhwyster perthnasol” yn rheoliad 3 ac is-baragraffau (d) - (f) o reoliad 5(2) gan O.S. 2011/2325, rheoliad 2(1), (2)(c) a (3)(a). Mae diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

([9])           O.S. 2009/1563. Mae diwygiadau i reoliad 3 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

([10])         O.S. 2009/3256 (Cy. 284). Diwygiwyd y diffiniadau o “NQF” a “lefel NQF” a mewnosodwyd y diffiniadau o “QCF” a “lefel QCF” gan O.S. 2010/2431, rheoliad 8(a).

([11])         O.S. 2009/3355 (Cy. 294). Mewnosodwyd y diffiniad o “cymhwyster perthnasol a gymeradwywyd” yn rheoliad 2 gan O.S. 2010/2431, rheoliad 9(a). Mae diwygiad arall i reoliad 2 nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.

([12])         O.S. 2011/1943 (Cy. 210). Mae diwygiad nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.

([13])         O.S. 2011/1945 (Cy. 212).

([14])         O.S. 2011/1963 (Cy. 217). Mae diwygiad nad yw’n berthnasol i’r offeryn hwn.

([15])         O.S. 2013/1793 (Cy. 180).

([16])         O.S. 2013/2216.

([17])         O.S. 2013/3048 (Cy. 307).

([18])         O.S. 2014/2677 (Cy. 265).

([19])         O.S. 2015/621. Mae diwygiadau i reoliad 3 nad ydynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.

([20])         O.S. 2015/1567.

([21])         O.S. 2015/1687 (Cy. 219) (C. 98).